home *** CD-ROM | disk | FTP | other *** search
/ RISC DISC 2 / RISC_DISC_2.iso / introcym next >
Text File  |  1995-10-14  |  4KB  |  112 lines

  1. Y DDISG RISG CYFROL DAU
  2. ========================
  3.  
  4. Croeso i'r Ddisg Risg Cyfrol 2
  5.  
  6. Cyn rhedeg Y Ddisg Risg efallai y bydd angen diweddaru eich System â'r
  7. cyfleuster Sysmerge sydd yn y cyfeiriadur Arsefydlu. Os oes gennych Risc PC
  8. cliciwch ddwywaith ar eich cyfeiriadur !Llwytho yna cliciwch ar yr opsiwn
  9. System a llusgwch y cyfeiriadur System o'r CD i ffenestr ddiweddaru'r System. 
  10.  
  11. Os ydych yn bwriadu rhedeg y cyflwyniad EMPIRE bydd raid ichi gopïo'r rhaglen
  12. !ARWork i'ch disg galed. (Mae angen tua 6MB o le ar y ddisg galed).
  13.  
  14. I redeg y CD hon cliciwch ar yr icon !RiscDisc2 ac fe gewch gyflwyniad
  15. rhyngweithiol i gynnwys y CD.
  16.  
  17. Cynlluniwyd y CD i redeg o dan Risc OS 3.5 ar Risc PC gyda 4MB DRAM ac o
  18. leiaf 1MB VRAM. Mae rhai rhaglenni wedi'u cynllunio i redeg o dan Risc OS
  19. 3.1.
  20.  
  21. MPEG
  22. ----
  23. Mae'r darnau o MPEG ar y ddisg hon wedi'u cynllunio i'w chwarae nôl gan
  24. ddefnyddio'r cerdyn Computer Concepts/Wild Vision Movie Magic. Bydd rhai o'r
  25. darnau sydd ag estyniad /mpv hefyd yn chwarae nôl gan ddefnyddio
  26. chwaraeyddion MPEG meddalwedd PD gan Paul LeBeau a Henrik Bjerregaard
  27. Pedersen.
  28.  
  29. Mae peth o gynnwys y ddisg wedi'i gynllunio i'w gopïo ar ddisg galed cyn ei
  30. ddefnyddio. Ond y prif amcan yw osgoi'r angen i gadw cyflwyniadau a
  31. chyfleusterau ar eich disg galed.
  32.  
  33. Sganiwyd cynnwys y ddisg hon gan ddefnyddio Fersiwn 1.900 !Killer o Pineapple
  34. Software ar gyfer yr holl firysau hysbys.
  35.  
  36. ADNODDAU
  37. ---------
  38. Cyn belled ag y bo modd, ceisiwyd sicrhau fod yr holl raglenni yn defnyddio
  39. adnoddau cyffredin ond os ydych yn rhedeg nifer o gyflwyniadau efallai y bydd
  40. gwahanol raglenni yn llwytho fersiynau o fodylau sy'n gwrthdaro â'i gilydd.
  41. Profwyd pob rhaglen i redeg yn unigol ond mae'n amhosibl gwirio pob un
  42. cyfuniad o raglenni.
  43.  
  44. I osgoi problemau ag enwau ffeiliau nad ydynt yn cydymffurfio â fformatio ISO
  45. ar y CD fe sylwch fod rhai rhaglenni yn archifau ArcFS yn hytrach na
  46. chyfeiriadur normal. Mae'r archifau hyn HEB EU CYWASGU; gellir eu hagor yn y
  47. modd arferol trwy glicio ddwywaith. Gellir defnyddio'r holl feddalwedd ar y
  48. ddisg hon naill ai gan ddefnyddio tudalennau blaen !RiscDisc2 neu yn
  49. uniongyrchol o'r CD.
  50.  
  51. Y WE
  52. -------
  53. Oherwydd bod y rhan fwyaf o safleodd Gwe yn rhedeg systemau Unix mae enwau'r
  54. ffeiliau yn yr adran honno yn aml yn hirach nag enwau ffeil safonol RISC OS.
  55. Nid yw hyn yn broblem ar y CD ond os byddwch yn copïo'r ffeiliau i ddisg fe
  56. gânt eu cwtogi.
  57.  
  58. RHYBUDD GWADU HAWLFRAINT
  59. ---------------------------
  60. O dan gyfraith Lloegr mae'r holl feddalwedd ar y ddisg hon yn hawlfraint i
  61. rywun sydd wedi caniatáu dosbarthu'r meddalwedd dan amodau rheoledig.
  62.  
  63. Nid yw Uniqueway Ltd yn hawlio fod y meddalwedd ar y ddisg hon ar gael ar
  64. gyfer ei ddosbarthu yn gyhoeddus ond maen nhw wedi cymryd camau rhesymol i
  65. sicrhau fod hawliau'r awduron gwreiddiol yn cael eu parchu a'u cynnal.
  66.  
  67. Lle bo amodau trwyddedu ynghlwm ni fydd Uniqueway Ltd yn gyfrifol am UNRHYW
  68. gamddefnydd gan defnyddiwr y ddisg.
  69.  
  70. Gan fod llawer o awduron y meddalwedd yn dibynnu ar gyfraniadau i gynnal eu
  71. gwaith, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, barchu cytundeb trwyddedu'r
  72. unigolyn.
  73.  
  74. Er ein bod wedi ceisio cynnwys fersiwn ddiweddaraf y meddalwedd ar y ddisg
  75. hon, bydd yr awduron gwreiddiol yn falch o ddarparu fersiwn ddiweddarach os
  76. byddwch chi'n barod i dalu am y meddalwedd fydd o defnydd ichi.
  77.  
  78. Er bod meddalwedd ar y ddisg hon, nid yw hynny'n golygu fod Uniqueway Ltd neu
  79. Acorn Computers Ltd yn eu cymeradwyo. Darperir yr holl feddalwedd "fel y mae"
  80. ac ni fydd Uniqueway Ltd yn gyfrifol am unrhyw golled neu broblemau a achosir
  81. wrth ddefnyddio'r meddalwedd yma.
  82.  
  83.  
  84.  
  85. HYSBYSIAD PWYSIG IAWN
  86. --------------------- Ni all Uniqueway Ltd na Acorn Computers Ltd gynnal y
  87. meddlawedd ar y ddisg hon. Dylech gyfeirio ymholiadau i'r unigolyn neu gwmni
  88. perthnasol.
  89.  
  90.  
  91. Mae'r ddisg hon yn gynhyrchiad hollol annibynnol ac ni ddylid derbyn unrhyw
  92. ddatganiadau ar y ddisg hon na'r meddalwedd cynwysiedig fel bo Acorn
  93. Computers Ltd yn ei gymeradwyo.
  94.  
  95. Os ydych yn hapus â'r ddisg cofiwch ddweud wrthym. Os ydych yn hapus â'r
  96. cyflwyniadau yna cysylltwch â'ch gwerthwr lleol neu'r cwmni am ragor o
  97. fanylion.
  98.  
  99.  
  100. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu os oes gennych ddeunydd yr hoffech ei
  101. gynnwys ar Gyfrol 3 y Ddisg Risg neu'r Ddisg Addysg cysylltwch â:
  102.  
  103. Paul Middleton
  104. Uniqueway Ltd
  105. 42 Crwys Road
  106. Caerdydd
  107. CF2 4NN
  108.  
  109. Tel 01222 644611
  110. Fax 01222 644622
  111. E-mail paul@uniqway.celtic.co.uk
  112.